15 Rhagfyr 2016


Ymgynghoriad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Bil.

Cylch gorchwyl

Ystyried:

 

 

 

Ynghyd â'r cylch gorchwyl, efallai y byddai'r sawl sy'n ymateb am ystyried materion penodol sy'n codi yn y Bil, yn arbennig:

Byddai o gymorth i'r Pwyllgor pe gallai'r sawl sy'n ymateb nodi sut y gellid diwygio'r Bil i wella unrhyw agweddau y maent yn eu nodi i fod yn annigonol.

Cod Ymarfer

Disgwylir y bydd y Cod Ymarfer drafft a fydd yn sail i ddarpariaethau'r Bil yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori ar wahân ar y modd y bydd yn cynnal ei waith craffu ar y Cod.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

I'w helpu gyda'r gwaith o ystyried y Bil, hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar y cylch gorchwyl a'r materion penodol a nodwyd uchod. Mae'r Atodiad yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor.

 

 

Dylech gyflwyno'ch sylwadau erbyn 3 Mawrth 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.  Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Gareth Rogers, Clerc y Pwyllgor drwy ffonio 0300 200 6565.

 

Yn gywir

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCYPE@cynulliad.cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
.

3.  Dylai sylwadau gyrraedd erbyn 3 Mawrth 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

4.  Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch ffont glir sans-seriff, fel Lucida Sans. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                     Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno, yn hytrach na’r ddogfen ei hun.

6.  Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd.  Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

Cyffredinol

7.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

8.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar.

9.  Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.  Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a'r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.